Salmau 121:1 Dyrchafaf fy llygaid at y bryniau, o ba le y daw fy nghymorth. 121:2 Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear. 121:3 Ni adaw efe i'th droed gael ei chyffroi: nid y neb a'th gadwo di cysgu. 121:4 Wele, yr hwn sydd yn cadw Israel, ni chodla ac ni chwsg. 121:5 Yr ARGLWYDD yw dy geidwad: yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw. 121:6 Yr haul ni'th drawo yn y dydd, na'r lleuad yn y nos. 121:7 Yr ARGLWYDD a'th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid. 121:8 Yr ARGLWYDD a geidw dy fyned allan a'th ddyfodiad i mewn o'r pryd hwn allan, a hyd yn oed yn dragywydd.