Salmau 120:1 Yn fy nghyfyngder y gwaeddais ar yr ARGLWYDD, ac efe a'm gwrandawodd. 120:2 O ARGLWYDD, gwared fy enaid rhag gwefusau celwyddog, a rhag tafod twyllodrus. 120:3 Beth a roddir i ti? neu beth a wneir i ti, ti tafod ffug? 120:4 Saethau llymion y cedyrn, a glo meryw. 120:5 Gwae fi, fy mod yn aros ym Mesech, fy mod yn trigo ym mhebyll Cedar! 120:6 Hir y bu fy enaid gyda'r hwn sydd yn casau heddwch. 120:7 Am heddwch yr ydwyf fi: ond pan lefarwyf, er rhyfel y maent.