Salmau 117:1 Molwch yr ARGLWYDD, yr holl genhedloedd: molwch ef, yr holl bobloedd. 117:2 Canys mawr yw ei drugaredd ef tuag atom ni: a gwirionedd yr ARGLWYDD yn parhau am byth. Molwch yr ARGLWYDD.